….Forget Me Knot
Based in Aberdare the Forget Me Knot Well Being Project provides a much needed and consistent outlet for those living and affected by dementia, Alzheimer’s, and memory/brain trauma.Set up by Gary “Ragsy” Ryland, the Welsh singer-songwriter who shot to fame on the hit-series The Voice in 2013, the project was one of ten successful ventures rolled out last year with the help of Community Music Wales as part of the organisation’s inaugural Cornerstones Programme.Setting out to change the mindset from 'What has someone forgotten?’ to 'What can they remember?', The Forget Me Knot Well Being Project provides an engaging and interactive form of care for all involved and this year will receive further funding from the Postcode Community Trust, a grant-giving charity funded entirely by players of People’s Postcode Lottery.Music offers catharsis and can help in so many ways. Most people have a song that holds some significance in their lives, often beyond the comprehension of others. Whether that song is as simple as 'Happy Birthday' or something more unique and personal. But locked away within everyone is a connection to that piece of music that could benefit from exploration. Even more so for those living with dementia, Alzheimer’s, and memory/brain trauma.Rolling out regular and tailored in-person sessions, participants and tutors collaborate musically; listen and recreate a chosen song using a variety of instruments, sounds and voices. Focusing on the composition and elements within it can help reveal memories and recollections for participants and their families to open-up and connect. This not only provides moments of joy, but a basis on which people can build in further sessions, create a routine, form confidence, trigger memories, engage in social environments and improve the quality of their lives.“It’s been an absolute pleasure seeing the impact these sessions have made to people,” explains founder Gary Ryland. “I’m hoping the next phase of the project continues to make a difference to the lives of those living with dementia and Alzheimer’s. With regular music workshops and interaction, the possibilities are endless and hopefully there’ll be lots of voices singing loud with plenty of big beaming smiles too.”
POSTCODE COMMUNITY TRUST is a grant-giving charity funded entirely by players of People’s Postcode Lottery | www.postcodecommunitytrust.org.uk | www.postcodelottery.co.uk
..
Prosiect Lies Forget Me Knot
Mae Prosiect Lles Forget Me Knot yn Aberdâr yn cynnig rhyddhad cwbl angenrheidiol a chyson i’r rhai sy’n byw gyda dementia, clefyd Alzheimer a thrawma’r cof/ymennydd.Sefydlwyd y prosiect gan Gary "Ragsy" Ryland, y canwr-gyfansoddwr o Gymru a saethodd i’r amlwg yn dilyn y gyfres boblogaidd ‘The Voice’ yn 2013, ac roedd y prosiect yn un o ddeg menter lwyddiannus a gyflwynwyd y llynedd gyda chymorth Cerddoriaeth Gymunedol Cymru fel rhan oraglen gyntaf sefydliad Cornerstones.Gyda’r bwriad o newid y meddylfryd o’r 'Pethau mae rhywun wedi'u hanghofio' i’r 'Pethau mae rhywun yn eu cofio', mae Prosiect Lles Forget Me Knot yn cynnig ffurf ddeniadol a rhyngweithiol o ofal ar gyfer yr holl rai sy'n dioddef ac eleni bydd yn derbyn rhagor o gyllid gan Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post, elusen sy'n rhoi grantiau ac sy’n cael ei hariannu’n gyfan gwbl gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.I lawer o bobl, mae cerddoriaeth yn cynnig catharsis a gall helpu mewn llu o wahanol ffyrdd. Mae gan y rhan fwyaf o bobl gân arbennig sy'n golygu llawer iddynt, ac yn aml y tu hwnt i ddealltwriaeth eraill. Boed hon yn gân syml fel 'Pen-blwydd Hapus' neu’n rhywbeth mwy unigryw a phersonol. Ac mae perthynas glos â’r darn hwnnw o gerddoriaeth yn cuddio ym mhob un ohonom a gallai mynd ati i archwilio’r berthynas honno fod yn fuddiol tu hwnt - yn fwy fyth i'r rhai sy'n byw gyda dementia, Alzheimer, a thrawma cof/ymennydd.Gan gyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb rheolaidd sydd wedi'u teilwra'n arbennig, bydd y cyfranogwyr a'r tiwtoriaid yn cydweithio'n gerddorol; yn gwrando ac yn ail-greu cân ddewisedig gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau, seiniau a lleisiau. Gall canolbwyntio ar y cyfansoddiad a'i elfennau helpu cyfranogwyr a'u teuluoedd i fod yn fwy agored a chysylltu â’i gilydd. Mae hyn, nid yn unig yn creu cyfnodau o hapusrwydd, ond hefyd yn sylfaen y gall pobl adeiladu arno mewn sesiynau eraill, sefydlu trefn, creu hyder, sbarduno atgofion, cymryd rhan mewn amgylcheddau cymdeithasol a gwella ansawdd eu bywydau."Mae hi wedi bod yn bleser pur gweld effaith y sesiynau yma ar bobl," eglura'r sylfaenydd Gary Ryland. "Rwy'n gobeithio y bydd cam nesaf yprosiect yn parhau i wneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sy'n byw gyda dementia ac Alzheimer. Gyda gweithdai cerddoriaeth a rhyngweithiorheolaidd, mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd a gobeithio y bydd llawer o leisiau'n canu'n uchel ac y bydd gwên fawr ar wynebau pawb."
Mae YMDDIRIEDOLAETH GYMUNEDOL COD POST yn elusen sy’n dyfarnu grantiau ac yn cael ei hariannu yn gyfan gwbl gan chwaraewyrLoteri Cod Post y Bobl – www.postcodecommunitytrust.org.uk | www.postcodelottery.co.uk
….