....Calonnau Cerddorol – Making Music Together, Maintaining Good Mental Health .. Calonnau Cerddorol – Creu Cerddoriaeth Gyda’n Gilydd, Cynnal Iechyd Meddwl Da....
….Following a successful pilot during last year’s pandemic, a brand-new Community Music Wales project is set to explore music and its impact on mental health.
When it comes to the empowerment of individuals experiencing mental-health issues, music has proven time and time again to offer so many tremendous benefits in the promotion of general wellbeing.
Having worked together throughout the COVID 19 lockdowns, Community Music Wales has once again teamed up with Ty Canna, Hergest Unit Ysbyty Gwynedd and Hafod Community Mental Health Team for a new project called, Calonnau Cerddorol.
Following consultation with service-users and funded by Arts Council of Wales' Mental Health and Well-being Program, Calonnau Cerddorol will investigate the use of music in the process of recovery through performance, songwriting, and collaboration.
Providing workshops, one-to-one support and activities for people experiencing mental health issues, it aims to increase people’s confidence; help them set positive and achievable goals and develop wider community cohesion. The project will also expand boundaries and safe spaces by encouraging participants to build strong relationships, work together to create and perform songs about personal issues, produce performances for the elderly in their local area, and collaboratively record their own music. All supported by a trained music practitioner, with by music that is 100% participant led.
As one service-user noted after last year’s pilot sessions, “I love feeling part of a group, plus the singing makes me feel that I can do something which helps my confidence. Singing in a group is very therapeutic. I always feel better afterwards.”
In fact, feedback was hugely positive across the board and staff saw regular weekly attendances swell, which is something of a rarity amongst service-users with chaotic lives amid a time of national crisis.
“The workshops were so successful, the team at Ty Canna initially extended the project using their own funds,” explains CMW Director, Hannah Jenkins. “Now, it really is amazing that we have since secured funding to make the project more long-term. It’s something participants can depend upon week after week, and it will help nurture them creatively and support them in reaching their potential.”
..O ran grymuso unigolion a chanddynt broblemau iechyd meddwl, mae cerddoriaeth wedi dangos dro ar ôl tro ei bod yn cynnig cymaint o fanteision ardderchog o ran hyrwyddo lles cyffredinol.
Ar ôl cydweithio drwy gydol cyfnodau clo COVID 19, mae Cerdd Gymunedol Cymru wedi ymuno unwaith eto â Thŷ Canna, Uned Hergest Ysbyty Gwynedd a Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol Hafod ar gyfer prosiect newydd o'r enw Calonnau Cerddorol.
Yn dilyn ymgynghoriad â defnyddwyr gwasanaethau ac ar ôl derbyn cyllid gan Raglen Iechyd Meddwl a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd Calonnau Cerddorol yn ymchwilio i'r defnydd o gerddoriaeth yn y broses o adfer drwy berfformio, ysgrifennu caneuon a chydweithio.
Drwy ddarparu gweithdai, cymorth un-i-un a gweithgareddau ar gyfer pobl sy'n cael problemau iechyd meddwl, y bwriad yw cynyddu hyder pobl; eu helpu i osod targedau positif a chyraeddadwy a datblygu cydlyniant cymunedol ehangach. Bydd y prosiect hefyd yn ehangu ffiniau a mannau diogel drwy annog cyfranogwyr i feithrin perthynas a chysylltiadau cryf, cydweithio i greu a pherfformio caneuon am broblemau personol, cynhyrchu perfformiadau i'r henoed yn eu hardal, a recordio eu cerddoriaeth eu hunain ar y cyd. Cefnogir pob un gan ymarferydd cerddoriaeth hyfforddedig yn seiliedig ar gerddoriaeth sy'n cael ei arwain gant y cant gan gyfranogwr.
Fel y dywedodd un defnyddiwr gwasanaeth ar ôl sesiynau peilot y llynedd, "Rydw i wrth fy modd yn teimlo'n rhan o grŵp, ac mae'r canu'n gwneud i mi deimlo fy mod yn gallu gwneud rhywbeth i roi hwb i’n hunanhyder. Mae canu mewn grŵp yn therapiwtig iawn. Rydw i bob amser yn teimlo'n well wedyn."
Yn wir, roedd yr adborth yn gyffredinol yn gadarnhaol tu hwnt a gwelodd y staff gynnydd sylweddol yn y niferoedd oedd yn mynychu bob wythnos, sy'n rhywbeth prin ymysg defnyddwyr gwasanaeth a chanddynt fywydau dyrys, a hynny mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol
“Roedd y gweithdai mor llwyddiannus, fel y cafodd y prosiect ei ymestyn yn gyntaf gan dîm Tŷ Canna gan ddefnyddio eu harian eu hunain,” fel yr eglura Hannah Jenkins, Cyfarwyddwr CGC. “Nawr, mae’n wirioneddol anhygoel ein bod, ers hynny, wedi sicrhau cyllid i wneud y prosiect hwn yn un mwy hir dymor. Mae’n rhywbeth y gall cyfranogwyr ddibynnu arno wythnos ar ôl wythnos, a bydd yn helpu i’w meithrin yn greadigol a’u cefnogi i gyrraedd eu potensial.”
….