....Soft Synths, Controllers and Music Creation .. Syntheseisyddion Tawel, Rheolyddion a Chreu Cerddoriaeth....
….Hosted by music creator and community music tutor, Joel Lipman, this day of free training will be centred on ways of utilising computer technology to aid music creation.
We will discuss methods and explore accessible tools and software for music production. The session will also touch upon synthesis techniques, DJing, controllers and the application of field recordings. You will also be invited to discuss your own experiences in music creation.
The day is open to those who use technology in music creation, as well as those who are looking for an introduction to this area of music making.
For further information or to book a place contact admin@communitymusicwales.org.uk
Thursday 7th July 2022
10.00AM – 16.00PM
Redhouse Cymru
Old Town Hall
High Street
Merthyr Tydfil
Joel Lipman
Joel’s involvement in music began in the early 00s when he joined Cardiff based hip-hop and turntablist collective Optimas Prime. Around a similar time, he started working for Community Music Wales as one of our tutors running DJ skills sessions, often with groups that wouldn’t usually have the opportunity to access music making. In 2008 Joel started producing and releasing music as a solo artist under the guise of Monky, which later became Elmono. Since then, he has released music on various labels, notably Giles Peterson's Brownswood Recordings and Bristol imprint Tectonic Recordings. Joel currently resides in Lisbon, Portugal, and is studying for an MSc in Sound Design.
..
Bydd y diwrnod hwn o hyfforddiant di-dâl yn cael ei gynnal gan Joel Lipman, y crëwr cerddoriaeth a’r tiwtor cerddoriaeth gymunedol ac yn canolbwyntio ar ffyrdd o ddefnyddio technoleg gyfrifiadurol i gynorthwyo’r gwaith o greu cerddoriaeth.
Byddwn yn trafod dulliau ac yn archwilio offer a meddalwedd hygyrch ar gyfer cynhyrchu cerddoriaeth. Bydd y sesiwn yn cyffwrdd hefyd â thechnegau synthesis, troelli disgiau, rheolyddion a’r defnydd o recordiadau maes. Gwahoddir chi hefyd i drafod eich profiadau eich hun ym maes creu cerddoriaeth.
Mae’r diwrnod yn agored i’r rhai sy’n defnyddio technoleg i greu cerddoriaeth, yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am gyflwyniad i’r maes hwn ym myd cerddoriaeth.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch ag admin@communitymusicwales.org.uk
Dydd Iau, 7 Gorffennaf
10.00AM – 16.00PM
Redhouse Cymru
Hen Neuadd Y Dref
Stryd Fawr
Merthyr Tudfil
CF47 8AE
Joel Lipman
Dechreuodd cysylltiad Joel â cherddoriaeth yn nechrau’r 00au pan ymunodd ag Optimas Prime - grŵp hip—hop a throfyrddio o Gaerdydd. Tua’r un adeg dechreuodd weithio i Cerdd Gymunedol Cymru fel un o’n tiwtoriaid. Roedd yn cynnal sesiynau ar sgiliau troelli disgiau, yn aml gyda grwpiau na fyddai fel arfer yn cael y cyfle i chwarae cerddoriaeth. Yn 2008 dechreuodd Joel gynhyrchu a rhyddhau cerddoriaeth fel artist unigol dan yr enw ‘Monky’, ac yn ddiweddarach ‘Elmono’. Ers hynny, mae wedi rhyddhau cerddoriaeth ar amryw o labeli, yn arbennig Brownswood Recordings (Gilles Peterson) a’r cwmni ‘imprint’ o Fryste, Tectonic Recordings. Ar hyn o bryd mae Joel yn byw yn Lisbon, Portiwgal, ac yn astudio ar gyfer MSc mewn Dylunio Sain…..