....Ffordd Sain - Songs and Spoken Word .. Ffordd Sain – Caneuon a’r Gair Llafar....
….As part of the Ffordd Sain project - Community Music Wales’s exploration of music and identity along Wales’ most iconic road - our friends and facilitators Sarah Harman and Mike Harries worked closely with groups of participants gathered in Erwood and Rhayader to create a series of songs, spoken word pieces and media, inspired by the surrounding area.
Following themes of juxtaposition of the River Wye with the A470; the gridlock and traffic, the Erwood Cannon, and the development of industry within the area, the project incorporated poems and songs, and collaboratively developed paintings, photography, and video.
The sessions took place earlier in the year at Erwood Market Hall and The Lost Arc Cafe, Rhayader, as well as in participants homes, and over long river and town walks through both towns. Participants also took their own photographs, filmed footage, and even used a drone to acquire a unique bird's eye view, as they worked together toward the final production of two special events which sought to bring everything, and everyone, together.
The final selection of work included acapella songs, country/blues and comedy numbers, percussion pieces and spoken word (Welsh and English) against instrumental backing, was showcased over two, wonderful performances at Erwood Market Hall and The Lost Arc Cafe, Rhayader and featured a special appearance from Erwood Community Chorus.
..
Fel rhan o brosiect Ffordd Sain – sef archwiliad Cerdd Gymunedol Cymru o gerddoriaeth a hunaniaeth ar hyd ffordd fwyaf eiconig Cymru – mae ein cyfeillion a’n hwyluswyr, Sarah Harman a Mike Harries, wedi bod yn gweithio’n agos â grwpiau o gyfranogwyr a ddaeth at ei gilydd yn Erwyd a Rhaeadr Gwy i greu cyfres o ganeuon, darnau’r gair llafar a chyfryngau, wedi’u hysbrydoli gan yr ardal o’u cwmpas.
Gan ddilyn themâu cyfosodiad – Afon Gwy a ffordd A470; y tagfeydd a’r traffig, canon Erwyd a datblygiad diwydiant yn yr ardal, mae’r prosiect yn ymgorffori cerddi a chaneuon, a ddatblygwyd ar y cyd, ac yn eu cyfoethogi drwy ddefnyddio peintiadau, ffotograffiaeth a fideo.
Cynhaliwyd sesiynau yn gynharach eleni yn Neuadd y Farchnad, Erwyd a Chaffi The Lost ARC, Rhaeadr, yn ogystal ag yng nghartrefi cyfranogwyr, ac yn ystod teithiau cerdded hir ar hyd yr afon a thrwy’r ddwy dref. Bu’r criw hefyd yn tynnu lluniau, yn creu ffilmiau a hyd yn oed yn defnyddio drôn eu hunain i gael golygfa unigryw o’r awyr, wrth iddynt weithio gyda’i gilydd i greu’r cynhyrchiad terfynol o ddigwyddiadau a fydd yn dwyn popeth a phawb at ei gilydd.
Bydd y detholiad terfynol o’r gwaith, a fydd yn cynnwys cân acapella, perfformiadau canu gwlad/blues a chomedi, yn ogystal â darnau i offerynnau taro a’r gair llafar (Cymraeg a Saesneg) gyda chefndir offerynnol, yn cael ei arddangos yn ystod dau berfformiad cwbl unigryw yn yr wythnosau sy’n dod, a bydd Corws Cymunedol Erwyd yn gwneud ymddangosiad arbennig.….